Mae’r ardal yn Sir Gaerfyrddin o’r enw fforest Brechfa a Mynydd Lianllwni yn sefyll ar safle coedwig hynafol Glyn Cothi a ddaeth yn fforest hela frenhinol.

Mae’r dirwedd sy’n cynnig cynefinoedd i fywyd gwyllt cyfoethog a llwybrau coedwigoedd sy’n cael eu mwynhau gan gerddwyr, beicwyr a marchogion, mewn dyled fawr i’r cyfreithiau a’r siarteri a oedd yn llywodraethu fforestydd hynafol. Roedd y cyfreithiau hyn yn pennu’r cosbau am droseddau yn erbyn “cig carw” a “glasgoed” ac yn diffinio hawliau cyffredin i breswylwyr lleol.

Mae fersiwn “Robin Hood” o hanes y fforest a barn yr “iau Normanaidd”, sef bod fforestydd ar gyfer hamddena brenhinoedd a’r bonedd yn unig, gyda ffensys uchel a chosbau halit i’r werin oedd yn camu iddynt illdau yn gamddealltwriaeth o ran hanes ein fforestydd hynafol. Mae hyd yn oed y farn bod y fforest yn ardal goediog iawn yn deiilio o’r duedd ddiweddar roeoli fforestydd ar lefel ddiwydiannol.

Yn draddodiadol roedd coedwig yn ardal oedd yn cynnwys ardal bori agored a phrysgwydd lle roedd anifeiliaid ac adar gwylltyn ffynnu.

Lawrlwytho Cyfreithiau Fforestydd pdf (1.1Mb)