Yn y 1920au ymatebodd Llywodraeth Prydain i ddiweithdra uchel parhaus trwy symud dynion di-waith o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf i ardaloedd yn y DU lle roedd diweithdra yn is. Ffurfiwyd Bwrdd Trosglwyddo Diwydiannol ym 1928 i fonitro a rheoli’r broses a thynnodd y Bwrdd sylw’r Weinidogaeth Lafur at y ffaith bod “dosbarth” o ddynion yn bodoli yr ystyriwyd eu bod yn rhy “wan ac yn dioddef o forâl isel o ganlyniad i ddiweithdra hir” i gymryd rhan yn y cynllun. Pennwyd bod y dynion hyn yn risg i forâl y dynion eraill a phenderfynwyd na fyddent yn addas i ymuno â’r cynllun tan iddynt gael eu “caledu” neu eu “hadnewyddu” mewn gwersylloedd Llafur.

Lawrlwytho Gwersyll LLafur Brechfa pdf (1.1Mb)