Roedd Rhyfel Cartref Sbaen yn frwydr galed a rannodd y wlad gyda degau o filoedd o farwolaethau a miliynau wedi colli eu cartrefi ac ar y clwt. Roedd hanes pobl Gwlad y Basg yn arbennig o drasig. Yn dilyn bomio’r boblogaeth sifil yn nhref Guernica ym mis Ebrill 1937 gan awyrennau Cynghrair Condor y Nazïaid, roedd y cyhoedd yn ddig dros ben.
Apeliodd llywodraeth Gwlad y Basg ar I wledydd tramor roi lloches dros dro I blant Guernica.
Daethpwyd â’r holl blant yn wreiddiol un gwersyll mawr ac o’r man hwnnw cawsant eu rhannu’n “drefedigaethau” a’u hanfon i wahanol rannau’r DU. Ail-agorwyd yr hen wersyll llafur ym Mrechfa er mwyn cynnig llety i 60 o fechgyn.